Psalms 113

Moli daioni'r Arglwydd

1Haleliwia!

Molwch e, weision yr Arglwydd!
Molwch enw'r Arglwydd!
2Boed i enw'r Arglwydd gael ei fendithio,
nawr ac am byth.
3Boed i enw'r Arglwydd gael ei foli
drwy'r byd i gyd!
4Yr Arglwydd sy'n teyrnasu dros yr holl genhedloedd!
Mae ei ysblander yn uwch na'r nefoedd.
5Does neb tebyg i'r Arglwydd ein Duw,
sy'n eistedd ar ei orsedd uchel!
6Mae'n plygu i lawr i edrych
ar y nefoedd a'r ddaear oddi tano.
7Mae e'n codi pobl dlawd o'r baw,
a'r rhai sydd mewn angen o'r domen sbwriel.
8Mae'n eu gosod i eistedd gyda'r bobl fawr,
ie, gydag arweinwyr ei bobl.
9Mae'n rhoi cartref i'r wraig ddi-blant,
ac yn ei gwneud hi'n fam hapus.

Haleliwia!
Copyright information for CYM